Mae trydydd person wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn y Rhyl yn ystod oriau mân y bore.

Yn ogystal â dau fachgen lleol, 15 a 16 oed, a gafodd eu harestio y bore yma, mae dyn 43 oed o’r dref hefyd yn y ddalfa yn Wrecsam bellach.

Roedd plismyn wedi cael eu galw tua 3 o’r gloch y bore i gyfeiriad yn Prince Edward Avenue yn y Rhyl yn dilyn adroddiadau o anhrefn treisiol.

Roedd dyn 37 oed wedi dioddef anafiadau trywaniad, a bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd yn fuan wedyn. Mae tri dyn arall yn cael eu trin yn yr ysbyty am anafiadau heb fod yn rhai sy’n bygwth bywyd.

“Mae ymchwiliad llawn ar waith,” meddai’r Uwcharolygydd Sian Beck. “Hoffwn dawelu meddyliau’r cyhoedd i beidio â dychryn gyda’r cynnydd yng ngweithgareddau’r heddlu yn y Rhyl wrth inni gynnal ein hymchwiliadau.

“Dw i’n apelio ar i unrhyw un a all fod â gwybodaeth a allai helpu’n hymchwiliad i ddod ymlaen. Dw i’n arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd neu a glywodd y cynnwrf yn Prince Edward Avenue tua 3 o’r gloch y bore yma.”

Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu 0800 555111 gan nodi cyfeirnod V061153.