(llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dau ddyn ifanc wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl digwyddiad yn y Rhyl yn oriau mân y bore.

Cafodd plismyn eu galw tua 3 o’r gloch i gyfeiriad yn Prince Edward Avenue yn y dref yn dilyn adroddiadau o anhrefn treisiol.

Roedd dyn 37 oed wedi dioddef anafiadau trywaniad, a bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd yn fuan wedyn. Mae tri dyn arall yn cael eu trin yn yr ysbyty am anafiadau heb fod yn rhai sy’n bygwth bywyd.

“Mae ymchwiliad llawn ar waith,” meddai’r Uwcharolygydd Sian Beck. “Mae dau lanc o ardal y Rhyl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae pedwar dyn o’r tu allan i ardal gogledd Cymru wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnwrf ac anafu.

“Hoffwn dawelu meddyliau’r cyhoedd i beidio â dychryn gyda’r cynnydd yng ngweithgareddau’r heddlu yn y Rhyl wrth inni gynnal ein hymchwiliadau.

“Dw i’n apelio ar i unrhyw un a all fod â gwybodaeth a allai helpu’n hymchwiliad i ddod ymlaen. Dw i’n arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd neu a glywodd y cynnwrf yn Prince Edward Avenue tua 3 o’r gloch y bore yma.”

Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu 0800 555111 gan nodi cyfeirnod V061153.