Mae arolwg barn sy’n cael ei gyhoeddi yn y Sunday Telegraph heddiw yn awgrymu bod y Torïaid yn gryfach yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain.

Canrannau cychwynnol y sampl yw’r Torïaid ar 45%, Llafur ar 25%, Plaid Cymru ar 6%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 4% ac Ukip ar 1%.

O bwysoli’r ffigurau yn ôl pa mor debygol yw’r bobl o bleidleisio, mae ffigurau’r Torïaid yn codi i 56%, Llafur i 32% a’r tair plaid arall yn aros yr un fath.

Y ffigurau cyfatebol ar gyfer Prydain gyfan yw’r Torïaid ar 42% a Llafur ar 31%.

Mae hefyd yn awgrymu bod y Torïaid yn sylweddol ar y blaen i Lafur yn yr Alban, ac yn ail clir i’r SNP.  Gogledd-ddwyrain a Gogledd-orllewin Lloegr yw’r unig ardaloedd lle mae Llafur ar y blaen.

Cafodd 2093 o bobl ledled Prydain eu holi ddydd Mercher a dydd Iau ar gyfer yr arolwg gan gwmni ORB International. Mae’r sampl ar gyfer Cymru o’r herwydd yn fach ac ni ellir rhoi gormod o bwyslais ar fanylder ei ffigurau.

Ar y llaw arall, mae canlyniadau fel hyn yn tueddu i gadarnhau canlyniadau’r arolwg penodol i Gymru a gyhoeddwyd ddechrau’r wythnos sy’n rhoi’r Torïaid ar 40% yng Nghymru, 10 pwynt canran ar y blaen i Lafur.