Eluned Murray a Georgia Newman-Phillips fydd yn cynrychioli Morgannwg Ganol yn y ffeinal
Roedd dros 1,000 o blant a phobol ifanc wedi mentro ar gystadlaethau coginio Eisteddfod yr Urdd eleni.

Cynhaliwyd y rowndiau rhanbarthol yr wythnos hon, gyda’r ddau gystadleuydd gorau ym mhob sir yn cael eu gwahodd i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-coed ddiwedd Mai.

Roedd cystadlaethau ar gyfer blwyddyn 4–6; blwyddyn 8 a 9; o dan 19 oed ac o dan 25 oed.

Bydd y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yng Nghegin Mistar Urdd ar Faes yr Eisteddfod, gyda seren Great British Bake Off, Beca Lyne-Pirkins, yn beirniadu.