Mae cyrchoedd yn ninas Casnewydd ddydd Mercher diwethaf (Ebrill 27) wedi arwain at arestio cyfanswm o 27 o bobol.

O blith y rheiny, mae 23 o bobol o Gasnewydd bellach wedi’u cyhuddo o fod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant, gyda’r bwriad o’u cyflenwi i eraill.

Mae Heddlu Gwent yn dal i chwilio am ddau ddyn mewn cysylltiad â’r ymchwilad – Denny Evan Roberts, 36, a Jason Baker, 21 – ac yn awyddus hefyd i siarad â Robert Sargent, 39.

O blith y 27…

Dynion wedi’u cyhuddo a’u cadw yn y ddalfa – un dyn 53 oed, dau ddyn 51 oed; un dyn 40 oed; dyn 39 oed; dyn 37 mlwydd oed; dyn 31 oed; pedwar dyn 30 oed; dau ddyn 24 oed; dyn 22 oed; un dyn 20 oed; tri dyn 18 oed.

Wed’i gyhuddo a’i ryddhau ar fechnïaeth – un dyn 19 oed.

Merched wedi’u harestio a’u cyhuddo – un ddynes 52 oed wedi’i gorchymyn i dalu dirwy o £295; dynes 60 oed wedi’i chyhuddo a’i rhyddhau ar fechnïaeth.

Plant wedi’u harestio – un bachgen 16 oed wedi’i gyhuddo a’i ryddhau ar fechnïaeth; un bachgen 16 oed wedi’i gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa; un bachgen 15 oed wedi’i gyhuddo a’i ryddhau ar fechnïaeth; un bachgen 13 oed wedi’i gyhuddo a’i ryddhau ar fechnïaeth.