Mae aelodau cyffredin y blaid Geidwadol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn cyhuddo’r blaid yn ganolog o’r broses o ddewis ymgeisydd seneddol ar gyfer etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.

Mae’r aelodau yn anhapus wedi iddyn nhw gael eu cyflwyno â rhestr fer o ddau ymgeisydd i ddewis rhyngddyn nhw. Maen nhw’n dweud fod hynny’n mynd yn groes i reolau’r blaid sy’n caniatau llunio rhestr fer o hyd at dri darpar-ymgeisydd.

Ond mae’r blaid yn dweud fod angen gweithredu’n gyflym oherwydd prinder amser, wedi i’r Prif Weinidog yn San Steffan, Theresa May, alw etholiad mor ddi-rybudd.

Mae’r ddau enw gerbron ym Mhen-y-bont yn ymgyrchwyr profiadol: Dan Boucher a Karen Robson. Y naill yn gynghorydd o Dreforys sydd wedi bod yn ymgeisydd ar gyfer San Steffan a’r Cynulliad mewn dwy sedd yng Nghaerdydd yn y gorffennol; a’r llall wedi sefyll yn Etholiadau Ewrop 2014 ac ar y rhestr yn ne-orllewin Cymru ar gyfer y Cynulliad yn 2016.

“Dewis, lle mae hynny’n bosib”

Mewn datganiad i’r wasg yn ymateb i’r drwgdeimlad yn lleol, mae’r Gynhadledd Geidwadol Genedlaethol (NCC) yn dweud: “Rydyn ni wedi gweithio’n galed i wneud yn siwr fod y cymdeithasau lleol a’u haelodau yn cael dewis o ymgeiswyr, lle mae hynny’n bosib.

“Rydyn ni hefyd wedi gwneud yn siwr fod y cymdeithasau hynny sy’n awyddus i ail-ddewis ymgeiswyr 2015 yn gallu gwneud hynny. Y nod ydi bod allan ar y stryd yn ymladd yr etholiad cyn gynted â phosib, er mwyn cynorthwyo yn y gwaith o ddelifro’r llywodraeth gref a sefydlog y mae ar y wlad ei hangen.”