Mae ffigurau diweddara’r diwydiant amaeth yn ddangos bod mwy o ddefaid yng ngwledydd Prydain o’i gymharu â’r llynedd.

Mae arolwg mis Rhagfyr gan adran DEFRA llywodraeth San Steffan, yn dangos bod 23.8 miliwn o ddefaid ac ŵyn yn y Deyrnas Unedig ar Ragfyr 1, 2016, cynnydd o 3.1% ers 2015.

Dyma’r ddiadell fwyaf yr adeg yma o’r flwyddyn ers dros ddegawd.

O fewn y cyfanswm yma, gwelwyd cynnydd o lai nag un y cant i 14.8 miliwn yn y ddiaddell fagu, a gwelwyd cynnydd o 6.7% (neu 570,000) i 9.05 miliwn mewn defaid ac ŵyn eraill.

“Cafwyd amgylchiadau ffafriol ar gyfer wyna a chyfranodd hyn at gynnydd mewn ŵyn yn 2016 yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig,” meddai John Richards, Swyddog Gwybodaeth gyda Hybu Cig Cymru.

“Er hynny, wynebodd y sector ddefaid dywydd anffafriol ar rai adegau yn ystod y flwyddyn. O ganlyniad i hynny, roedd rhai cynhyrchwyr yn cael trafferth gorffen eu hwyn.”

Faint sy’n cael eu lladd?

Mae ystadegau DEFRA o ran faint o anifeiliaid gafodd eu lladd yn ystod chwarter cyntaf 2017 yn dangos bod nifer tebyg o ŵyn, sef tua 2.9 miliwn, wedi bod drwy’r lladd-dai o’i gymharu â 2016.