Canon Andrew White
Bydd ficer o Baghdad yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ledled Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r Canon Andrew White yn ficer yn yr Eglwys Anglicanaidd, San Siôr, ym mhrifddinas Irac, lle mae wedi bod yn drafodwr a chymodwr mewn rhai o’r sefyllfaoedd mwyaf anodd yn y Dwyrain Canol.

Oherwydd ei waith, mae bywyd y ficer, sy’n dioddef o Sglerosis Ymledol, wedi bod dan fygythiad, a dyw e ddim yn gallu mynd yn ôl i Baghdad.

Ar un adeg, roedd angen hyd at 35 o warchodwyr er mwyn iddo barhau gyda’i waith.

Bydd yn siarad mewn digwyddiad yng Nghadeirlan Bangor ac Ysgol Gyfun Llangefni nos Sadwrn, Mai 6 a bore Sul, Mai 7, ac mae disgwyl iddo fod yn Y Drenewydd ar Fai 8, ac yn Henffordd erbyn Mai 10.

“Offeiriad dewr”

“Mae yna adegau pan mae enwau a llefydd yn plethu i’w gilydd, ac mae Canon Andrew White a Baghdad yn enghraifft o hyn,” meddai Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John.

“Mae Canon Andrew yn offeiriad eofn a dewr sydd wedi llwyddo i ddod â heddwch a chariad Iesu i sefyllfaoedd anobeithiol yn wyneb gwrthwynebiadau gelyniaethus.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ei glywed yn siarad ac yn gobeithio y bydd llawer o bobol eraill yn dod i gael eu hysbrydoli gan ei eiriau.”