Geno Maher
Mae dyn o Fôn wedi ei garcharu am 30 mis wedi iddo anafu dyn arall gyda chyllell.

Fe ymosododd Geno Maher ar ddyn 62 oed ar Ddiwrnod Nadolig 2016 ym Mhorthaethwy.

Fe gafodd y dihiryn 44 oed ei ddedfrydu i garcharu yn Llys y Goron Caernarfon heddiw ac mae wedi cael gorchymyn i beidio â mynd yn agos i’w ddioddefwr am bum mlynedd.

“Mae Maher wedi cyflawni troseddau niferus a bydd y cyfnod hwn o garchar yn rhyw gymaint o ryddhad i nifer yn ein cymunedau lleol,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Dave Owens.