Aeron Jones
Mae cwyn swyddogol  wedi ei gwneud i’r heddlu am un o gynghorwyr Llais Gwynedd, a hynny am ei fod yn prynu wyau Pasg i blant tair ysgol yn ei ward.

Ddechrau’r mis derbyniodd y Cynghorydd Aeron Jones tipyn o sylw gan bapurau newydd gan gynnwys y Daily Mail, wedi i golwg360 ddatgelu ei fod wedi methu a phrynu wyau Pasg i blant ei ward yn archfarchnad Morrisons.

Mae’r cynghorydd yn prynu rhwng 160 a 180 o wyau siocled i blant ei ward pob Pasg ers blynyddoedd.

Ond eleni, a hithau yn adeg etholiad, mae wedi dod i’r amlwg bod Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn cwyn am ei draddodiad blynyddol.

Er nad yw natur y gŵyn yn glir mae Aeron Jones yn amau ei fod wedi ei gyhuddo o geisio llwgrwobrwyo ac ennill pleidleisiau.

“Baeddu enw”

Mae’r Cynghorydd Llais Gwynedd yn bwriadu ail sefyll i gael cynrychioli pobl sedd Llanwnda ym mis Mai, ac yn credu bod y gwyn yn ymgais i’w niweidio yn wleidyddol.

“Maen nhw’n trio baeddu fy enwi i, ond wrth gwrs os ydy rhywun am gael ei berswadio gan wy Pasg sydd werth punt – wel dw i ddim yn meddwl ei fod yn ffordd dda o berswadio rhywun i bleidleisio i fi,” meddai wrth golwg360.

“Hefyd golwg360 wnaeth gysylltu â fi [i holi am fethu â chael yr wyau Pasg gan Morrisons]. Dw i wedi bod yn gwneud hyn yn anhysbys am y chwe blynedd ddiwethaf. Ac wrth gwrs yr unig reswm mae’n cael sylw tro yma yw oherwydd bod siop wedi gwrthod cyflawni beth oeddwn i isio.”

Cwynion ac enllib

Yn ôl y cynghorydd mae’r heddlu yn edrych i mewn i’r gŵyn  ac yn ceisio penderfynu os oes cyfraith wedi ei thorri – yn ôl Aeron Jones mae ei “gyfreithwraig yn eitha’ ffyddiog does dim achos i’w hateb.”

Mae Aeron Jones hefyd yn honni fod cynghorydd arall wedi gadael “a dileu” sylwad enllibus tuag ato ar Facebook  yn gysylltiedig â’r wyau Pasg ac mae’n ystyried ymateb trwy brosesau cyfreithiol.

Hefyd mae wedi cynnal cyfarfod â phennaeth Morrisons Caernarfon ac mae bellach ar delerau da â’r archfarchnad ac “ddim yn gweld bai arnyn nhw”.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd: “Rydym wedi derbyn cwyn am yr wyau ac yn ystyried y mater.”