Mae’r heddlu wedi enwi’r dyn a gafwyd yn farw yn y Fenai nos Fawrth.
Daethpwyd o hyd i gorff Jonathan Edwards yn y dŵr ger Bangor.
Roedd y dyn 21 oed o Gaernarfon wedi bod ar goll ers Mawrth 19 ac mae ei deulu wedi cael gwybod am yr hyn ddigwyddodd iddo.
Ddoe fe wnaed profion i gadarnhau’r sawl oedd wedi ei ganfod.
Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin yn un amheus gan yr heddlu ac mae’r Crwner Dewi Pritchard-Jones wedi ei hysbysu.
Dywedodd yr Arolygydd Rhys Gough: “Rydym yn cydymdeimlo yn fawr gyda theulu Jonathan ac ar eu rhan rwy’n gofyn i bawb barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”