Mae yn bosib y bydd mwy o waith trwsio ar ffordd ddeuol yr A55 ar hyd arfordir y gogledd, ar ôl i Ysgrifennydd Economi a Seilwaith Cymru gomisiynu astudiaeth o welliannau posib.

Bu’r lôn yn destun dadlau brwd ers blynyddoedd oherwydd y gwaith atgyweirio cyson arni, a’r tagfeydd traffig dilynol.

Ond mae Ken Skates yn credu bod angen gwneud mwy o wait her mwyn datrys y problemau.

Mae’r Gweinidog wedi dweud mai dim ond gwaith brys fydd yn cael ei wneud dros yr haf ac na fydd unrhyw waith yn cael ei wneud rhwng Cyffordd 11 a’r ffin â Lloegr tan fis Medi ar y cynharaf.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae gweithwyr wedi bod yn trwsio twneli ac wyneb yr A55, yn lliniaru risg llifogydd a gwneud gwaith cynnal a chadw brys.

“Edrych eto”

“Fy mwriad yw edrych eto ar bob agwedd ar y ffordd, gan nodi ble a sut i wella’r profiad i deithwyr yn y ffordd orau, a sut i sicrhau bod llai o ddamweiniau a bod cerbydau sy’n torri i lawr yn cael llai o effaith ar y traffig,” meddai Ken Skates.

“Bydd hyn yn ategu’r gwaith presennol i wella’r ffordd wrth barhau i sicrhau bod cyn lleied â phosib o darfu oherwydd gwaith ar y ffordd.

“Mae dros 70,000 o geir yn defnyddio rhannau o’r A55 ar amseroedd brig, a bydd yr astudiaeth hon yn helpu Llywodraeth Cymru i barhau i wneud gwelliannau, gan sicrhau bod yr A55 yn ymdopi â’r galw ac yn helpu i hwyluso economi gref yng Ngogledd Cymru, economi sy’n edrych i’r dyfodol.”

Bydd yr astudiaeth gydnerthedd yn edrych ar y rhwydwaith cyfan o Gaergybi i gyffordd y Post House, a’r bwriad yw cwblhau cam cyntaf y gwaith ddiwedd yr haf.

Mae disgwyl i unrhyw waith ddechrau ym mis Medi.