Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cynhadledd yr wythnos nesaf i drafod ffyrdd o wella’r ffordd mae hi’n gwasanaethu ei phraidd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Eglwys am gryfhau ei gallu i weinidogaethu yn Gymraeg a rhoi mwy o gefnogaeth i offeiriaid sy’n cynnal gwasanaethau yn yr iaith.
Bydd y gynhadledd yn clywed gan siaradwyr amrywiol o enwadau ledled Cymru a bydd gweithdai i helpu pobol sy’n gweinidogaethu drwy’r Gymraeg.
“Parchu a dathlu natur ddwyieithog Cymru”
“Mae’r Eglwys yng Nghymru yn gwasanaethu cymunedau ledled y wlad, o Fôn i Fynwy, gan gynnig gweinidogaeth i bawb,” meddai’r trefnydd, y Parchedig Ddoctor Ainsley, Caplan Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.
“Wrth wneud hyn, mae’r Eglwys yn awyddus i barchu a dathlu natur ddwyieithog ein gwlad a gweithredu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg cyn belled â phosib.
“Ar y diwrnod olaf, byddwn yn ceisio gwneud addunedau ar gyfer y dyfodol er mwyn cynnig cefnogaeth barhaol i’r rhai sy’n gweinidogaethu drwy’r Gymraeg.”
Bydd y gynhadledd yn cychwyn ddydd Mawrth nesaf (Mai 2) ym Mae Caerdydd, dan arweiniad Esgob Bangor, Andy John.
“Mae’r gynhadledd yn gyfle i ni sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg i annog ein gilydd a chynllunio ar gyfer dyfodol gobeithiol,” meddai.