Yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma mae perchennog cwmni glanhau wedi bod yn sôn am lwyddiant ei menter.

Wedi 17 mlynedd yn gweithio yn y cyfryngau yng Nghaerdydd, fe benderfynodd Einir Davies sefydlu cwmni glanhau cartrefi Cymry Cymraeg y brifddinas.

“Roeddwn i eisiau newid a bod yn fos arna’ i fy hun, a hyblygrwydd hefyd,” meddai Einir Davies wrth gylchgrawn Golwg.

“A phan o’n i yn methu dod o hyd i gwmni glanhau wnes i sylwi bod yna fwlch yn y farchnad am gwmni Cymraeg oedd yn cynnig elfen bersonol.”

100 o gwsmeriaid

Pan ddechreuodd Einir Davies ei busnes flwyddyn a hanner yn ôl roedd ganddi 15 o gwsmeriaid – erbyn hyn mae ganddi 100 o gwsmeriaid a chwe aelod o staff yn ei helpu i gwrdd â’r galw.

“Dw i’n credu bod pobol yn hoffi’r ffaith bod y cwmni’n Gymraeg a bod y staff yn siarad Cymraeg,” meddai’r perchennog.

“Mae’r cwsmeriaid yn gwybod pwy sy’n dod draw ac maen nhw’n dod i’w ‘nabod nhw’n dda. Ond efo lot o’r cwmnïau mawr dydach chi ddim yn gwybod pwy sy’n dod i’r tŷ.”

Ac mae ganddi drawstoriad o bobol yn gweithio iddi.

“Mae actorion yn cael cyfnodau tawel felly mae’n handi cael rhywbeth ecstra tra bod y gwaith yn dod mewn,” meddai Einir Davies.

Tips glanhau Einir Davies yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.