Mae ymchwil yn dangos bod un o bob pum oedolyn yng Nghymru heb fynd ar gefn beic mewn deng mlynedd.

Daw’r canlyniadau o arolwg Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru [BHF Cymru], sydd hefyd yn dangos bod chwarter y genedl sy’n berchen ar feic heb fynd ar un mewn chwe blynedd.

Roedd un o bob saith person yng Nghymru yn dweud ei bod wedi anghofio sut i reidio beic ar ôl bod mor hir oddi ar un.

Yn dilyn yr ymchwil, mae’r elusen bellach yn annog pobol i gymryd rhan yn ei thaith feics yn Abertawe a seiclo naill ai 12, 28 neu 46 milltir i godi arian at yr elusen.

“Tra bod ‘na awch amlwg i seiclo yng Nghymru, mae’n syndod i ddysgu bod llawer ohonom ddim yn mynd ar gefn ein beiciau digon, neu hyd yn oed o gwbl,” meddai Hannah Townsend, o BHF Cymru.

“Mae seiclo yn ffordd ffantastig o gadw’ch calon yn iach, dyna pam ein bod ni’n annog pobol i ysgwyd y llwch oddi ar eu beics a herio eu hunain i gymryd rhan yn ein Taith Feics yn Abertawe i helpu i gefnogi ein hymchwil hanfodol i glefyd y galon.”