Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau tri dyn oedd yn cael eu cadw’n gaeth yn erbyn eu hewyllys yng Nglannau Dyfrdwy.

Yn ystod yr ymgyrch i fynd â’r afael â chaethwasanaeth modern, fe fu plismyn yn archwilio tri lleoliad a chyfweld â naw o bobol yr oedden nhw’n amau o fod mewn peryg.

Mae un dyn wedi ei arestio am droseddau caethwasanaeth modern, ac yn parhau i fod yn y ddalfa, ac mi fydd unigolyn arall yn cael ei gyfweld yn ystod y dyddiau nesaf.

Cafodd arian parod ei ddarganfod yn un o’r llefydd, ac mae heddlu wedi dechrau ymchwiliadau er mwyn darganfod o ble ddaeth y pres.