Mae cyfweliadau ar gyfer prif swydd S4C yn digwydd ym Mharc Ty Glas heddiw – ac mae golwg360 yn deall bod tri o ddynion yn y ras i olynu Ian Jones.

Mae S4C wedi gwrthod cadarnhau fod y cyfweliadau i ddewis Prif Weithredwr y sianel yn dechrau am 11 o’r gloch ddydd Mercher.

Maen nhw hefyd yn gwrthod cadarnhau na gwrthod bod tri o bobol – a thri o ddynion – wedi cyrraedd y rowndiau ola’.

Fe gyhoeddodd Ian Jones ddechrau Rhagfyr y llynedd ei fod yn gadael y brif swydd ddiwedd 2017, a hynny ar ol chwe blynedd yn y gwaith ac ar ôl i adolygiad annibynnol o’r Sianel gan ei gwblhau gan Lywodraeth Prydain.

Y darogan

Mae tri o enwau mawr yn cael eu crybwyll wrth i bobol yn y diwydiant teledu drafod pwy allai gamu i’r brif swydd yn Llanisien…

Darran Phillips – cyn-Brif Weithredwr rhanbarth rygbi’r Scarlets gyda thros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y byd ariannol yn Llundain cyn hynny;

Dafydd Rees – ef yw pennaeth cwmni teledu Bloomberg TV EMEA, ac sydd hefyd wedi bod yn Bennaeth Uned Fusnes cwmni Sky News;

Owen Evans – un o brif weision suful Bae Caerdydd, yn gyn-gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned, ac am ddeng mlynedd cyn hynny yn gyfrifol am isadeiledd a rhaglenni technoleg newydd Grwp BT.