Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, wedi galw am gynnal uwchgynhadledd i sicrhau bod gwerslyfrau Cymraeg ar gael.

Pwrpas y digwyddiad yw ymdrin â phryderon ynglŷn â chyflenwi a chreu gwerslyfrau Cymraeg a Saesneg ar gyfer cyrsiau ysgolion yng Nghymru.

Bydd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CBAC, Cymwysterau Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac eraill yn bresennol ac yn cyfrannu at y gynhadledd.

Bydd yr uwchgynhadledd yn rhoi cyfle i’r sefydliadau i drafod y sefyllfa bresennol ac i gynnig ffyrdd o ddatrys y broblem.

“Testun pryder”

“Roedd yn destun pryder imi glywed bod prinder o werslyfrau Cymraeg ar gael,” meddai Kirsty Williams. “Dw i ddim yn disgwyl i blant sy’n sefyll eu harholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg fod o dan unrhyw anfantais.

“Dw i ddim yn fodlon ar y sefyllfa bresennol. Mae’r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd pobl sy’n gallu gwneud gwahaniaeth a helpu i gynnig atebion hir dymor.”