Aled Morgan Hughes, ymgeisydd Maldwyn
Mae aelodau Plaid Cymru wedi bod yn cynnal cyfarfodydd i ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.

Wythnos union ers i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, wneud y cyhoeddiad annisgwyl, mae adroddiadau o ddeg etholaeth yn datgan pwy fydd ymgeiswyr Plaid Cymru am y seddau yn San Steffan.

Felly, pwy sydd wedi’u dewis hyd yn hyn? Dyma’r diweddaraf:

Aberconwy – Wyn E Jones

Brycheiniog a Maesyfed – Kate Heneghan

Gorllewin Abertawe – Rhydian Elis Fitter

Canol Caerdydd – Mark J Hooper

Gogledd Caerdydd – Steffan Webb

Gorllewin Caerdydd – Michael Deem

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Abi Thomas 

Caerffili – Lindsay Whittle

Castell Nedd – Daniel Gwydion Williams

Ceredigion – Ben Lake

Gwyr – Harri Roberts

Islwyn – Darren Jones

Maldwyn – Aled Morgan Hughes

Merthyr Tudful – Amy Kitcher

Pontypridd – Fflur Elin