Llys y Goron Abertawe
Mae cyn-athro ysgol gynradd ym Mhowys wedi cyfaddef cyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn merched ifanc.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Gordon Fleming, o Groesoswallt yn Sir Amwythig, wedi cam-drin 24 o blant dros gyfnod o chwe blynedd yn y 1970au a’r 80au.

Roedd Gordon Fleming, 66 oed, wedi pledio’n euog i 24 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferched o dan 13 oed.

Mae wedi cael rhybudd gan y barnwr y gallai ddisgwyl cyfnod “sylweddol” yn y carchar.

Cafwyd Gordon Fleming yn euog o drosedd debyg yn Llys y Goron Caer yn 1992.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar 5 Mai cyn cael ei ddedfrydu.