Mary Hopkin - llun o glawr 'Live at The Royal Festival Hall 1972'
Mae cyfres arbennig yn cyflwyno pytiau o hanes Cymru o’r 1960au ymlaen yn dechrau heno ar ITV Cymru.

Bydd rhaglen gynta’r gyfres, Wales on TV, i’w gweld nos Fawrth wrth iddi gyflwyno hanes streic y glowyr, taith hwylio dyn o Geredigion o gwmpas y byd a llwyddiant y gantores Mary Hopkin wrth iddi ddod yn seren recordio ryngwladol.

Mae’r gyfres wedi dod â chlipiau archif ITV Cymru i olau dydd ynghyd ag ailgyflwyno deunydd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

‘Hiraethus … a dadlennol’
Fe fydd y rhaglenni’n talu sylw i ddigwyddiadau gwleidyddol Cymru, campau chwaraeon ynghyd ag olrhain cerddoriaeth cofiadwy’r degawdau.

“Mae archif ITV Wales yn drysorfa o atgofion ac mae Wales on TV yn argoeli i fod yn hiraethus, yn ddifyr ac yn ddadlennol fel ei gilydd,” meddai Jonathan Hill, golygydd rhaglenni Saesneg ITV Cymru Wales.

“Bydd gwylwyr hŷn yn gallu ail-fyw newyddion a digwyddiadau o ddegawdau a fu, tra bydd gwylwyr iau yn cael blas ar fywyd yng Nghymru dros bum degawd eiconig y gorffennol,” meddai.

Bydd 25 pennod i’r gyfres fydd i’w gweld bob nos Fawrth am 10.40yh, gyda’r gyntaf heno (Ebrill 25.)