Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod pedwar o bobol wedi’u harestio mewn cysylltiad â ‘digwyddiad’ yn Y Rhyl neithiwr.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Martin Best, eu bod wedi ymateb i ddigwyddiad ar Ffordd Wellington yn Y Rhyl nos Lun, ond does dim manylion pellach am natur y digwyddiad.

“Rydym yn ymwybodol o awgrymiadau’n cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol fod saethu wedi digwydd, fodd bynnag gallwn gadarnhau nad yw hyn yn wir,” meddai’r Prif Arolygydd.

Dywedodd fod yr heddlu wedi parhau i archwilio’r safle neithiwr, a bod y pedwar gafodd eu harestio wedi’u cadw yn y ddalfa.