Llun: PA
Mae’r Blaid Lafur yn wynebu colli etholiad cyffredinol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1918, gyda’r Ceidwadwyr yn cipio’r mwyafrif o seddi yng Nghymru, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf.
Fe fyddai’r canlyniad yn “ddigynsail” yn ôl yr Athro Roger Scully wrth ddadansoddi Baromedr Gwleidyddol diweddaraf Cymru, sy’n cael ei gynnal rhwng ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, a gafodd ei gynnal wythnos ddiwethaf.
Dyma’r arolwg cyntaf i’w gynnal ers i’r Prif Weinidog, Theresa May, gyhoeddi etholiad brys wythnos ddiwethaf.
Dywedodd 40% o bobol y bydden nhw’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr, gyda 30% o’r 1,029 gafodd eu holi yn dweud eu bod yn bwriadu pleidleisio dros Lafur, a 13% yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru.
“Llafur yn colli 10 sedd”
Ar sail yr ystadegau yma mae’r Athro Roger Scully yn rhagweld y gall y Ceidwadwyr ennill y mwyafrif o seddi yng Nghymru (21 sedd) gan gipio 10 sedd gan y Blaid Lafur – sef Alun a Glannau Dyfrdwy, Pen-y-bont ar Ogwr, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, De Clwyd, Delyn, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Wrecsam, ac Ynys Môn.
Mae’n debyg bod y cynnydd mawr ym mhoblogrwydd y Ceidwadwyr ar draul UKIP, gyda dau draean o’r bobl wnaeth bleidleisio dros UKIP yn 2015 yn bwriadu troi at y Torïaid.
Mae’r gefnogaeth i’r pleidiau eraill wedi aros yr un fath ers yr un cyfnod ddwy flynedd yn ôl, ac yn ôl yr Athro Roger Scully fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn “siomedig” nad ydyn nhw wedi llwyddo i ennill tir ers eu perfformiad trychinebus yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol yn 2015.
Yn ol y pôl piniwn, fe fydd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal eu gafael ar y seddi sydd ganddyn nhw ond na fyddan nhw’n llwyddo i gipio rhai newydd.
Angen “lleisiau cryf yn San Steffan”
Wrth ymateb i’r pôl dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae’r arolwg yma yn rhoi cip i ni o’r dyfodol a allai ddisgwyl Cymru. Os yw’r Torïaid yn ennill gyda’r rhifau yma, mae risg i ddyfodol ein cenedl.”
Ychwanegodd bod angen “lleisiau cryf yn San Steffan i sefyll dros Gymru” gan ddweud bod “Llafur wedi methu a gwneud hynny ac o ganlyniad mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu.”
Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd Mark Williams AS bod yr etholiad yn gyfle i “newid cyfeiriad eich gwlad.”
Mae Llafur Jeremy Corbyn, meddai, “wedi profi mai nhw yw’r wrthblaid waethaf yn hanes modern ac mae Llafur yn wynebu rhoi’r mwyafrif mae’r Torïaid eu hangen i fynd a Phrydain ar drywydd peryglus iawn.”
Ychwanegodd: “Y Democratiaid Rhyddfrydol yw’r wrthblaid y mae’r wlad ei hangen i atal Theresa May a’i chynlluniau trychinebus ar gyfer Prydain.”
Canran o’r bleidlais
Ceidwadwyr: 40% (+12)
Llafur: 30% (-3)
Plaid Cymru: 13% (dim newid)
Democratiaid Rhyddfrydol: 8% (-1)
UKIP: 6% (-7)
Eraill: 3% (-1)
Nifer y Seddi
Ceidwadwyr: 21 sedd (+10)
Llafur: 15 sedd (-10)
Plaid Cymru: 3 sedd (dim newid)
Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd (dim newid)