Ieuan Wyn Jones
Mae pump o bobol wedi taflu eu henwau i’r het yn y gobaith o gael eu hethol yn ymgeisydd Plaid Cymru Ynys Môn ar gyfer yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.

Yn eu plith mae cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, sydd wedi cynrychioli Ynys Môn yn Aelod Seneddol o 1987 hyd 2001, ac yn y Cynulliad o Fai 1999 hyd 2013.

Yr enwau eraill ydi Ann Griffith, Dyfrig Jones, Elliot Riley Walsh, a Vaughan Williams.

Mae John Rowlands wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn tynnu ei enw yn ôl o fod yn ymgeisydd er mwyn “cefnogi Ieuan Wyn Jones” ac mae Iwan Huws hefyd wedi tynnu allan o’r ras.

John Rowlands oedd ymgeisydd Plaid Cymru Ynys Môn yn Etholiad Cyffredinol 2015, ond fe gipiodd Albert Owen fwyafrif o 229 pleidlais.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid yn yr etholaeth y bydd hystings yn cael ei drefnu nos Fercher (Ebrill 26) i benderfynu pwy fydd yn cael ei ethol i fynd benben â’r Aelod Seneddol presennol, sef Albert Owen o’r Blaid Lafur.

Leanne Wood

Yn y cyfamser mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi cyhoeddi na fydd hi’n ymgesio i ddod yn Aelod Seneddol y Rhondda yn yr etholiad cyffredinol.

Fe ddaeth cyhoeddiad Leanne Wood ar wefan gymdeithasol Twitter, yn dweud ei bod wedi penderfynu peidio â sefyll ar ôl “ystyriaeth lawn” a’i bod yn hyderus y bydd gan Blaid Cymru “ymgeisydd cryf.”