Mae un o elusennau canser Cymru wedi sicrhau cymorth ariannol o fwy na £75 miliwn i gleifion canser drwy daliadau budd-daliadau lles.

Yn ôl Macmillan Cymru, mae cleifion canser yn wynebu tua £570 o golled incwm neu gynnydd mewn gwariant bob mis.

“Mae ymdrin ag effeithiau emosiynol a chorfforol canser yn un peth, mae ceisio gwneud hynny wrth boeni sut i dalu’r biliau hyn yn rhywbeth arall,” meddai Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Macmillan Cymru, Susan Morris.

Costau ychwanegol

Yn 2016 yn unig, fe wnaeth yr elusen helpu cleifion a gofalwyr yng Nghymru i gael mynediad at £13.7 miliwn o gymorth ariannol, tua £4,160 i bob person ar gyfartaledd.

Ac yn ôl dynes o Borthmadog, Cath, a gafodd ddiagnosis canser yn 2015 roedd ffactorau fel gostyngiad incwm, methu gweithio, prynu bwydydd arbenigol, gwresogi a chostau teithio am driniaethau wedi effeithio’n drwm arni.

“Heb Macmillan, mae’n debygol y byddwn wedi gorfod gwerthu fy nhŷ oherwydd fy salwch,” meddai.

“Mae wedi bod yn gartref i mi ers 40 mlynedd a byddai wedi bod yn dorcalonnus gorfod ei adael.”