Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cadarnhau na fydd hi’n ymgeisio i ddod yn Aelod Seneddol y Rhondda yn yr etholiad cyffredinol brys ym mis Mehefin.
Fe ddaeth cyhoeddiad Leanne Wood ar wefan gymdeithasol Twitter, yn dweud ei bod wedi penderfynu peidio â sefyll ar ôl “ystyriaeth lawn” a’i bod yn hyderus y bydd gan Blaid Cymru “ymgeisydd cryf.”
Sedd Lafur fu’r Rhondda ers 1974, ac mae Chris Bryant wedi bod yn Aelod Seneddol yno ers 2001, a phe bai Leanne Wood wedi taflu ei henw at y rhestr byddai’n rhaid iddi roi’r gorau i arwain Plaid Cymru yn y Cynulliad.
Enillodd Leanne Wood ei hetholiad diwethaf yn y Rhondda, gan guro Leighton Andrews i’r sedd yn etholiadau’r Cynulliad y llynedd.
Tair sedd sydd gan Blaid Cymru yn San Steffan ar hyn o bryd, a’r gobaith yw y gallan nhw ennill dwy ychwanegol y tro hwn.
Ieuan Wyn Jones ac Ynys Môn
Un o’r seddau y mae Plaid Cymru’n ei llygadu yw Ynys Môn lle mae sïon fod cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn bwriadu ymgeisio.
Mae o leiaf pedwar ymgeisydd arall wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymgeisio am y sedd yn enw’r blaid, sef Dyfrig Jones, Vaughan Williams, Ann Griffith a John Rowlands.
Yn Etholiad Cyffredinol 2015, 229 o fwyafrif oedd gan Aelod Seneddol Llafur, Albert Owen.