Ieuan Wyn Jones
Mae sïon bod cyn-Ddirprwy Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn bwriadu ymgeisio ar gyfer enwebiaeth Plaid Cymru yn Ynys Môn.

Dywedodd ffynhonnell o fewn Plaid Cymru eu bod nhw wedi clywed y bydd Ieuan Wyn Jones yn cynnig ei enw.

Ni fydd cadarnhad terfynol a yw am fynd amdani nes bod yr enwebiadau yn cau am hanner nos, nos Sul.

Cynrychiolodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001 ac yn y Cynulliad o Fai 1999 hyd 2013.