Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn y de-ddwyrain, Steffan Lewis wedi dweud y bydd Llafur yn “lwcus i ennill unrhyw seddi o gwbl” os mai’r cynllun i gyflwyno Gŵyl Banc ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yw’r “gorau sydd gan Jeremy Corbyn” i’w gynnig i Gymru.

Byddai Dydd Gŵyl Dewi’n Ŵyl Banc yng ngwledydd Prydain pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur.

Mae’n rhan o bolisi Llafur o ddathlu pedwar nawddsant gwledydd Prydain – Dewi ar Fawrth 1, Padrig ar Fawrth 17, Siôr ar Ebrill 23 ac Andrew ar Dachwedd 30.

Dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’r fath gynllun yn “dathlu diwylliannau cenedlaethol ein gwledydd balch”, a bod gan Brydain lai o wyliau banc na gwledydd eraill y G20.

Ond llywodraethau’r gwledydd eraill fyddai’n cael y gair olaf ar y polisi, meddai Jeremy Corbyn.

‘Y gorau sydd gan Jeremy Corbyn i’w gynnig’

Tra bod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi croesawu’r cynllun, mae Steffan Lewis wedi ei feirniadu’n hallt.

“Ie, dylai diwrnod cenedlaethol Cymru fod yn ŵyl banc ond os mai dyma’r gorau all Jeremy Corbyn ei gynnig i Gymru, yna bydd y Blaid Lafur yn lwcus iawn i gadw unrhyw seddi o gwbl.

“Mae ein gwlad o dan fygythiad. Mae pobol Cymru’n wynebu’r economi’n crebachu unwaith eto a chyflogau’n cael eu gwasgu wrth i’r Torïaid rwygo ein cysylltiadau economaidd gyda gweddill y byd.

“Ac mae Jeremy Corbyn yn siarad am wyliau banc.”