Leanne Wood - Aelod Seneddol nesa'r Rhondda? (Llun: Plaid Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud bod ganddi “benderfyniad anodd” i’w wneud ar drothwy’r etholiad cyffredinol brys.

Byddai sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth y Rhondda – gan herio Chris Bryant – yn golygu y byddai’n rhaid iddi roi’r gorau i arwain y blaid yn y Cynulliad.

Enillodd Leanne Wood ei hetholiad diwethaf yn y Rhondda, gan guro Leighton Andrews i’r sedd yn etholiadau’r Cynulliad y llynedd.

Ond dywedodd hi wrth raglen Sunday Supplement y BBC ei bod hi’n “hanfodol” sicrhau bod gan Blaid Cymru yr Aelodau Seneddol “gorau yn San Steffan”.

Tair sedd sydd gan Blaid Cymru yn San Steffan ar hyn o bryd, a’r gobaith yw y gallan nhw ennill dwy ychwanegol y tro hwn.

‘Cyfle’

Ychwanegodd Leanne Wood: “Mae cyfle da i ni yn yr etholiad hwn.

“Mae Llafur yn rhanedig ac mae’n ymddangos, felly, na allan nhw amddiffyn pobol Cymru. Ry’n ni’n gwybod fod y Torïaid yn fygythiad i’n cenedl ac yn fygythiad i’n heconomi.

“Mae gan Blaid Cymru gyfle i sicrhau bod gan Gymru lais cryf i amddiffyn Cymru, a’r unig ffordd allwn ni wneud hynny yw drwy sicrhau bod gennym ni dîm cryf o ASau Plaid Cymru yn San Steffan.

“Dyma ein cyfle ni.”

‘Bygythiad’

Sedd Lafur fu sedd y Rhondda ers 1974, ac fe fu Chris Bryant yn Aelod Seneddol yno ers 2001 ac yn ôl Leanne Wood, bydd y blynyddoedd nesaf yng Nghymru’n “hanfodol”.

“Mae gyda fi benderfyniad anodd iawn i’w wneud yn bersonol oherwydd bydd y blynyddoedd nesaf yn hanfodol yng Nghymru.

“Mae natur ein cenedligrwydd dan fygythiad yn nhermau’r potensial am Brexit Torïaidd eithafol.

“Mae’n hanfodol bwysig fod gyda ni ein lleisiau cryfaf yn San Steffan a dyna pam dw i’n agored i ystyried sefyll yn y Rhondda.”