Byddai Dydd Gŵyl Dewi’n Ŵyl Banc yng ngwledydd Prydain pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, yn ôl Jeremy Corbyn.

Mae’n rhan o bolisi Llafur o ddathlu pedwar nawddsant gwledydd Prydain – Dewi ar Fawrth 1, Padrig ar Fawrth 17, Siôr ar Ebrill 23 ac Andrew ar Dachwedd 30.

Dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’r fath gynllun yn “dathlu diwylliannau cenedlaethol ein gwledydd balch”, a bod gan Brydain lai o wyliau banc na gwledydd eraill y G20.

Ond llywodraethau’r gwledydd eraill fyddai’n cael y gair olaf ar y polisi, meddai Jeremy Corbyn.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi croesawu’r cynllun, er bod y Ceidwadwyr wedi ei wfftio.