Mae cwmni Halen Môn wedi croesawu gwobr gan y Frenhines fel cyfle i ddangos i fusnesau eraill bod “arbed ynni yn safio pres”, ac hefyd fel ffordd i’w helpu i werthu eu cynnyrch dramor.

Mae’r cynhyrchwyr halen o Ynys Môn ymysg chwe chwmni o Gymru sydd wedi ennill gwobrau brenhinol ac mae’n debyg mai Halen Môn yw’r cwmni preifat cyntaf  yng Nghymru i ennill y wobr am gynaladwyedd.

Ac i Gyfarwyddwr Anweithredol y cwmni, Eluned Davies, daw’r wobr fel tystiolaeth bod busnesau Cymru yn medru ffynnu trwy fod yn wyrdd.

“Mae angen dangos, yn enwedig i’r sector breifat, bod cynaladwyedd yn medru ychwanegu at y bottom line – y llinell waelod,” meddai Eluned Davies wrth golwg360.

“Wrth arbed ynni rydach chi’n safio pres. Wrth edrych ar fusnes yn nhermau cynaladwyedd mae’n gallu bod yn fuddiol i’r busnes yn ariannol hefyd.”

“Newid lot o bethau”

Er mwyn ennill y wobr mae Halen Môn wedi gweithredu nifer o newidiadau fel eu bod yn fwy ecogyfeillgar – o becynnau plastig i blanhigion gwyllt.

“Ryda ni wedi newid y pecynnu o’r tiwbiau i blastig oherwydd roedd y tiwbiau ddim yn medru cael eu hailgylchu,” eglura Eluned Davies.

“Ryda ni wedi lleihau faint o blastig sydd yn y pouches ac yn y blaen. Ryda ni wedi newid lot o bethau!”

Mae hadau blodau gwyllt wedi cael eu plannu o amgylch adeilad Halen Môn er mwyn “cynyddu beio amrywiaeth” ac mae’r cwmni wedi dechrau ail ddefnyddio gwres i gynhesu dŵr y môr wrth gynhyrchu halen.

Marchnadoedd newydd

Trwy ennill y wobr mae cwmni Halen Môn wedi ennill yr hawl i arddangos arwyddlun neu emblem y Frenhines ar eu cynnyrch – rhywbeth fydd o fudd mawr i’r cwmni wrth geisio apelio at farchnad ryngwladol yn ôl Eluned Davies.

“Bydd hyn yn golygu y bydd hi’n haws cael mynediad at farchnadoedd eraill wedi Brexit. Mae’n gosod ni ar wahân i’r cynhyrchwyr eraill. Rydym ni ar hyn o bryd yn trio sefydlu rhwydwaith yng Nghanada ac maen nhw wrth eu boddau â’r teulu brenhinol.”