Rod Richards (Llun o'i gyfrif Facebook)
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynghori Leanne Wood i beidio â sefyll etholiad i fod yn Aelod Seneddol y Rhondda.

Yn ôl Rod Richards, byddai arweinydd Plaid Cymru yn “ddewr” i fentro sefyll yn erbyn Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur presennol yr etholaeth.

Dywedodd wrth golwg360 hefyd y dylai Plaid Cymru ganolbwyntio ar gadw ei thair sedd bresennol yn San Steffan yn hytrach na cheisio ennill seddi eraill.

Nid yw Rod Richards yn credu y byddai Leanne Wood yn trechu AS presennol y Rhondda.

“Dw i’n gwybod ei bod wedi curo Leighton Andrews yn Etholiad y Cynulliad, doedd Leighton ddim yn ymgeisydd da,” meddai Rod Richards.

“Mae Chris Bryant wedi bod yn Aelod Seneddol ers deuddeg mlynedd neu ragor ac mae ganddo fe enw da hefyd. Felly mae’n siŵr gallai [Leanne Wood] ffeindio ymgeisydd arall haws i gystadlu yn erbyn na Chris Bryant.

“Mae’n anodd dweud [os gallai Leanne Wood ennill]. Ond o edrych ar y sefyllfa nawr, dyw Plaid [Cymru] ddim yn gryf.

“Pe bawn i’n Leanne, mi fyddwn i yn canolbwyntio ar gadw’r tair sedd sydd ganddyn nhw achos dim ond jyst eu cadw nhw wnaethon nhw y tro diwethaf.”

Etholiad – “setlo Brexit am byth”

Mae Rod Richards yn cytuno gyda phenderfyniad Theresa May i gynnal etholiad cyffredinol brys, gan y bydd yn ffordd o “setlo Brexit am byth” a thawelu lleisiau pobol fel Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n galw am ail refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae galw etholiad bob amser yn risg achos dyn ag ŵyr be’ gall ddigwydd ar hyd y ffordd, [ond] fi’n falch ei fod yn dod, mae’n mynd i setlo’r mater dw i’n credu o safbwynt pobol fel Tim Farron sy’n creu pen tost.

“Setlo’r mater o safbwynt y bobol sy’n galw am refferendwm arall ar bleidlais am bopeth. Mae’n cryfhau sefyllfa’r Prif Weinidog a hefyd y rheini fydd yn trafod gyda’r Ewropeaid ar sut fyddwn ni’n gadael, beth fydd y gost ac yn y blaen.

“Mi fydd ei sefyllfa yn lot cryfach heb orfod edrych dros ei ‘sgwyddau i weld be’ mae pobol yn San Steffan yn dweud.

“Beth yw hwn yw trafod beth sydd orau i Brydain. Bydd gan yr Aelodau Seneddol yr hawl i ddweud eu barn wrth gwrs ond dim os ydy e’n mynd i wanhau cryfder dadl y Llywodraeth.”