Ymgyrchwyr Ffos-y-fran (Llun: Sarah Squires)
Mae safle gwaith glo brig ger Merthyr Tudful wedi gorfod cau ar ôl i bump o brotestwyr amgylcheddol glymu eu hunain i offer cloddio yno.

Y bore yma mae aelodau Reclaim the Power ac Earth First! Wedi tarfu ar waith maes glo Ffos-y-fran, gan gau lôn er mwyn atal glo rhag gadael y safle.

Cwmni Miller Argent sydd yn berchen ar y safle ac mae’n debyg mai’r maes glo brig yma yw’r un mwyaf yng Ngwledydd Prydain.

Mae’r protestwyr yn poeni bod y cloddio am lo yn achosi llygredd ac yn niweidio iechyd pobol leol.

Yn ddiweddar mi wnaeth y Cenhedloedd Unedig alw am ymchwiliad i faes glo Ffos-y-fran oherwydd pryderon bod y gwaith glo brig yn achosi afiechydon ymysg trigolion lleol.

“Gweithredu’n uniongyrchol”

Un sydd wedi clymu ei hun i beiriant cloddio ar y safle yw Andrea.

Fe ddywedodd wrth golwg360  ei bod yn protestio yn heddychlon ac yn rhan o frwydr ryngwladol.

“Rydym yn credu bod rhaid cau’r pwll glo yma a’i adfer i’w ffurf naturiol cyn gynted ag sy’n bosib,” meddai Andrea. “Dyna beth mae’r bobol leol yn mynnu, a dyna beth yr ydym ni’n cefnogi.

“Dydy’r Llywodraeth ddim yn gweithredu’n ddigonol felly rydym ni wedi gweithredu’n uniongyrchol ac wedi cau’r maes i lawr am y diwrnod.

“Mae’n rhaid i ni gefnu ar glo ym mhobman. Mae pobol dros y byd yn dioddef o lygredd aer sydd wedi ei achosi gan fwyngloddio glo. Dewch â diwedd i’r glo nawr!”

Mae golwg360 wedi gofyn i Miller Argent am sylw.