Carl Sargeant AC
Fe fydd 33 o brosiectau ‘Dechrau’n Deg’ ledled Cymru yn derbyn cyfanswm o dros £1m gan Lywodraeth Cymru, i’w helpu i wella eu cyfleusterau plant yn ystod 2017-18.

Mae ‘Dechrau’n Deg’ yn helpu teuluoedd sy’n byw yn rhai o’r cymunedau tlotaf yng Nghymru.

Mae’n cynnig deuddeg awr a hanner yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer plant bach 2-3 oed; yn helpu i ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant; yn rhoi cymorth i rieni; a darparu gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd.

“Rhoi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru,” meddai Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant.

“Mae ‘Dechrau’n Deg’ yn rhaglen allweddol sydd â’r nod o helpu i wella cyfleoedd plant mewn bywyd a lleihau’r angen i ymyrryd yn nes ymlaen.

“Dyma pam ein bod yn darparu dros £70m y flwyddyn mewn cyllid refeniw i’r Awdurdodau Lleol i ddarparu’r cynllun, a pham fy mod yn cyhoeddi dros £1m o gyllid cyfalaf i sicrhau bod gan y plant yr amgylchedd gorau posib i chwarae a dysgu ynddo.”