Stephen Kinnock, AS Aberafan
Dim ond ennill yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin fydd yr unig “ganlyniad derbyniol” i’r Blaid Lafur, meddai Aelod Seneddol Aberafan.

Ac yn ôl Stephen Kinnock, os na fydd hynny’n digwydd, bydd yn rhaid i Jeremy Corbyn “ystyried ei safle”.

Dywedodd na fyddai’n ddigon da pe bai Llafur mond yn colli ambell i sedd, yn wyneb yr arolygon barn trychinebus yn ei herbyn, sy’n darogan y gallai golli degau o seddi.

“Yr unig ganlyniad y gallwn ni fod yn hapus â fe yw buddugoliaeth i’r Blaid Lafur,” meddai wrth golwg360.

“Dw i ddim yn mynd i reoli unrhyw ddisgwyliadau y dylwn ni ‘mond golli hyn a hyn o seddi ac y byddai hynny’n edrych yn iawn – na.

“Yr unig beth fydd yn edrych yn dda fydd buddugoliaeth i’r Blaid Lafur, achos mae’n rhaid i ni stopio’r Torïaid rhag gwneud yr hyn maen nhw’n gwneud i’n gwlad.

“Llwyddiant yw Llywodraeth Lafur – dim mwy, dim llai.”

“Rhaid i’r arweinydd edrych ar ei hun yn y drych”

Awgrymodd y gwleidydd yn gryf hefyd y byddai’n rhaid i Jeremy Corbyn gamu o’r neilltu pe bai ddim yn llwyddo i ffurfio llywodraeth.

“Y consensws cyffredinol yw, os yw arweinydd yn colli etholiad cyffredinol, mae’n rhaid iddo ystyried ei safle.

“Mae hynny’n normal, mae’n union be’ roedd yn rhaid i David Cameron wneud ar ôl y refferendwm.

“Galla’ i ddim dychmygu byd lle mae arweinydd plaid wleidyddol yn colli etholiad ac wedyn ddim yn ystyried p’un a mai e yw’r person cywir i arwain y blaid.

“Ond wrth gwrs, mae e i’r person hwnnw i edrych ar ei hun yn y drych a phenderfynu ond mae y tu hwnt i amgyffred nad ydych chi’n meddwl am y pethau hynny wedi etholiad.”

Anghytuno â barn ei dad, Neil Kinnock

Mae tad Stephen Kinnock, Neil Kinnock – cyn-arweinydd y Blaid Lafur, wedi dweud ei fod bellach hyd yn oed yn fwy annhebygol y bydd yn gweld Llywodraeth Lafur yn ystod ei oes.

Ond roedd Stephen Kinnock yn anghytuno.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn gywir ar hynny. Dw i’n meddwl ein bod ni wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd yn y gorffennol ac rydym wedi brwydro nôl,” meddai.

“Fe aeth y Blaid Lafur drwy argyfwng mawr yn y 1930au ac roeddwn ni ddim mewn grym rhwng 1983 a 1987 ond rydym wastad yn brwydro nôl a dw i wir yn credu bod rhan fawr o etholwyr Prydain am weld plaid sy’n credu mewn Prydain decach ac sy’n credu mewn ail-falansio ein heconomi.

“Mae cefnogaeth graidd yna i ni ond mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu gyda’r gefnogaeth honno gyda’r arweiniad cywir fel ein bod ni’n gallu mynd â phobol i’r cyfeiriad cywir.”