Mae Heddlu De Cymru wedi cael ei ganmol gan Arolygaeth Cwnstabliaid Ei Mawrhydi (HMIC) am gadw pobol yn ddiogel ac am leihau’r nifer o droseddau.
Daw’r canlyniad hwn yn rhan o archwiliad a wnaed gan y corff arolygu wrth iddyn nhw edrych ar effeithiolrwydd a chyfreithlondeb holl luoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd yr Arolygydd Wendy Williams ei bod yn “hapus iawn” gyda pherffromiad cyffredinol Heddlu De Cymru.
Ychwanegodd: “Rwy’n falch iawn gyda’r gwelliannau mae Heddlu De Cymru wedi eu gwneud yn y modd y maen nhw’n amddiffyn pobol rhag niwed a sut y maen nhw’n cefnogi’r rhai sy’n dioddef.”
“Angen parhau â’r gwaith caled”
Mae’r Dirprwy Brif Gwnstabl Matt Jukes wedi croesawu’r archwiliad trwy ddweud ei fod yn “benllanw ar y gwaith caled parhaus sy’n cael ei wneud ledled y llu”.
“Ond mae’n rhaid i’r gwaith caled barhau,” meddai wedyn. “Mae natur troseddau yn newid ac mae angen i ni anelu o hyd at wella ein hymatebion i’r bygythiadau hyn sy’n codi ac i amddiffyn y rhai hynny sydd fwyaf tebygol o gael niwed yn ein cymunedau.”