Janet Street Porter
Mae newyddiadurwraig ddadleuol yn annog pobol hŷn Cymru i feddwl yn fwy positif ynglŷn â’u hoed.

Mae Janet Street Porter, 70, yn dweud ei bod wedi penderfynu cefnogi ymgyrch mudiad WE100 oherwydd iddi hi ei hun fynd “yn rhy gyfforddu” gyda’i threfn ddyddiol, wedi iddi basio oed ymddeol.

“Mae hynny’n sicr yn arwyddo henaint,” meddai’r newyddiaduwraig o dras Gymreig.

“Dw i wedi sylwi mai’r allwedd i gadw’n iach wrth fynd yn hŷn yw i fod yn ddigon dewr i wneud pethau newydd ac i herio fy hun. Mae’n rhaid defnyddio henaint fel esgus i ddweud ‘ie’!

“Y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud wrth fynd yn hŷn yw cael rheolaeth dros eich bywyd. Mae henaint yn gyfle i wneud rhywbeth positif – i wneud ffrindiau newydd ac i ddysgu am bethau newydd.”

Colli allan 

Mae mwy na hanner (56%) pobol hŷn Cymru yn colli allan ar brofiadau a allai fod o fantais iddyn nhw wrth dyfu’n hŷn, yn ôl ymchwil newydd.

Daw’r ystadegau fel rhan o ganlyniadau gwaith ymchwil gan WE100, ymgyrch sy’n rhan o’r cwmni rhyngwladol, Merk Consumer Health, sydd am daclo’r agwedd negyddol tuag at heneiddio.

Dyw 67% o bobol hŷn ddim yn cael y cyfle i gwblhau’r hyn sydd ar eu rhestr-cyn-marw, a hynny oherwydd eu bod naill ai’n teimlo’n rhy hen, rhy ofnus neu’n rhy unig i fentro.

Ymhlith y pump uchaf o brofiadaunad yw pobol hŷn yn manteisio arnyn nhw, yn ol WE100, mae:

  1. Dysgu iaith newydd
  2. Gwneud naid bwnji
  3. Teithio’r byd
  4. Hedfan awyren neu hofrennydd
  5. Dysgu dawnsio