Mae meddygon y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ei chael hi’n “anodd ymdopi”, yn ôl adroddiad newydd.

Mewn arolwg gan Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP) yng Nghymru, mae nifer o aelodau’r sefydliad, sy’n cynnwys meddygon ymgynghorol a meddygon dan hyffroddiant, wedi rhannu eu profiadau a’u pryderon o weithio ar y rheng flaen mewn ysbytai.

Ymhlith y pryderon sydd wedi cael eu mynegi mae:

– dirywiad yn lles a diogelwch cleifion;

– cau gwelyau;

– cynnydd yn y galw am wasanaethau;

– tanstaffio-

– morâl isel y gweithlu.

“Mae’n bryd gweithredu”

“Yn ein holl ysbytai, rydym bellach yn gweld effaith system gofal cymdeithasol sydd wedi’i dan-ariannu yn y gorffennol,” meddai’r adroddiad.

“Mae’n rhaid inni drawsnewid GIG tameidiog drwy gynllunio’n well mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

“Yn anad dim, mae angen i ni roi i feddygon y rheng flaen – a’u partneriaid ym maes gofal cymdeithasol – yr amser a’r lle i arloesi, a’r rhyddid a’r gefnogaeth i gamu’r tu hwnt i furiau eu sefydliad.”

Mae’r adroddiad yn galw am fwy o ofal arbenigol yn cael ei ddarparu yn y gymuned; am ffyrdd newydd o gyfathrebu, ac am yr angen i chwalu’r rhwystrau i ddarparu gofal i gleifion.

Hanner ddim am chwythu’r chwiban…

Er y problemau, mae mwy na hanner o ymatebwyr yr arolwg, sef 73 allan o 94, yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n ddigon hyderus i godi eu pryderon a phroblemau o fewn y sefydliadau y maen nhw’n gweithio.

“Diwylliant sy’n barod iawn i feio’r rheini sy’n codi llais sydd gennym, ynghyd â diffyg gweithredu ar y gorau neu elyniaeth ar y gwaethaf gan staff gweinyddu a rheoli”, meddai un meddyg iau sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd.