Katrina Evemy (Llun trwy law Heddlu Dyfed Powys)
Mae dynes 19 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad yn ei chartref yn Llanelli yr wythnos diwethaf.

Cafodd dyn 21 oed ei arestio ar y pryd ar amheuaeth o geisio’i llofruddio, ond mae’r heddlu bellach yn trin yr achos fel un o lofruddiaeth.

Cafodd Katrina Evemy ei chludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Rhodfa’r Graig ar Ebrill 13.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi mynegi eu cydymdeimlad â’r teulu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.