Fe fydd Caerdydd yn gartref i un o chwe chanolfan ymchwil dementia newydd gwerth £13m yr un yng ngwledydd Prydain.

Mae disgwyl i’r ganolfan dderbyn £17m yn rhagor ar gyfer ymchwil dros y bum mlynedd nesaf, sy’n cyfateb i’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn ymchwil dementia yng Nghymru.

Bydd y canolfannau eraill yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caeredin, Coleg Imperial Llundain a Choleg King’s yn Llundain.

Mae’r prosiect cyfan werth £250m ac mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y Deyrnas Unedig.

Gwaith y canolfannau fydd dod o hyd i ffyrdd newydd o roi diagnosis, trin ac atal dementia a gofalu am bobol sydd â dementia.

Pennaeth y ganolfan newydd yng Nghaerdydd fydd yr Athro Julie Williams, Prif Ymgynghoryd Gwyddonol Llywodraeth Cymru ac Athro Geneteg Niwroseicolegol Prifysgol Caerdydd.

Y ganolfan 

Bydd y ganolfan yng Nghaerdydd yn cyflogi hyd at 60 o ymchwilwyr gwyddonol dros gyfnod o bum mlynedd, gan ganolbwyntio ar ddeall y cyflwr a darganfod triniaethau newydd.

Fe fyddan nhw hefyd yn tynnu ar waith y Ganolfan Geneteg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd a gwyddonwyr yng Nghymru sydd wedi darganfod 30 o enynnau sy’n cyfrannu at glefydau Alzheimer neu Huntington.

Pam Caerdydd?

Dywedodd cyfarwyddwr y canolfannau, yr Athro Bart De Strooper: “Y weledigaeth a rennir rhwng y canolfannau fydd wrth wraidd llwyddiant DRI, a’r creadigrwydd hwn fydd yn ein helpu i ddeall dementia mewn gwirionedd a sut mae gwahanol fathau o’r clefyd yn datblygu.

“Fe ddewiswyd y canolfannau gennym ar sail gwyddoniaeth arloesol a rhagorol, tystiolaeth o arweiniad cadarn, sut maent yn cyd-fynd â nodau DRI yn gyffredinol, a’u gallu i dyfu a chydweithio wrth i waith y sefydliad fynd o nerth i nerth.

“Bydd pwyslais Prifysgol Caerdydd ar imiwnedd cynhenid yn ein galluogi i gael dealltwriaeth ehangach o effaith aflonyddgar dementia.

“Mae gan yr Athro Williams enw da rhyngwladol am ei brosiectau genetig graddfa fawr. Ochr yn ochr â’r posibilrwydd o gymhwyso rhaglenni ei thîm, mae cyfle cyffrous i ddatblygu yn y ganolfan hon.”