Mae angen ymchwil “ar frys” i atal a thrin strôcs yng Nghymru, yn ôl elusen.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn rhybuddio bod angen dod o hyd i ffyrdd gwell o ddelio â’r afiechyd gan fod y dewis o ddulliau o drin y cyflwr yn gyfyng.

Yn ôl yr elusen mae 13 person yn cael strôc yng Nghymru bob dydd ond ar hyn o bryd dim ond un cyffur- alteplase – sydd yn medru trin strociau sy’n cael eu hachosi gan glotiau gwaed.

Er hyn mae’r elusen wedi croesawu datblygiadau yn y maes gan gynnwys cynllun Ysbyty Prifysgol Cymru i ddatblygu dull newydd o drin â strôcs fydd yn gwella triniaeth brys.

Hefyd bu lleihad o 22% yn y nifer o farwolaethau oherwydd strôcs yng Nghymru rhwng 2010 a 2015.

“Achub rhagor o fywydau”

“Mae 66,000 o bobol yng Nghymru yn byw â sgil-effeithiau creulon a gwanychol y clefyd dinistriol yma,” meddai Cyfarwyddwr Meddygol Sefydliad Prydeinig y Galon, yr Athro Syr Nilesh Samani.

“Er bod triniaeth strôcs wedi datblygu rhyw faint mae’r opsiynau sydd ar gael i ni ar gyfer trin cleifion yn gyfyng dros ben.”

“Rydym angen mynd ati ar frys i ariannu ymchwil er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sydd yn achosi strôcs fel ein bod yn medru eu hatal, ac er mwyn datblygu triniaethau newydd er mwyn achub rhagor o fywydau.”