Ifan Morgan Jones
Mae darlithydd cyfryngau wedi penderfynu mentro’n gynt na’r disgwyl gyda’i gynllun i sefydlu gwasanaeth newyddion ar y we yn yr iaith Saesneg.

Bwriad gwreiddiol Ifan Morgan Jones, sy’n darlithio yn adran y Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, oedd lawnsio ei wasanaeth, Nation.cymru ar ddechrau blwyddyn wleidyddol ac academaidd newydd yn yr hydref eleni.

Ond mae cyhoeddiad Theresa May heddiw ei bod yn gobeithio ennyn cefnogaeth Ty’r Cyffredin i gynnal etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, wedi sbarduno Ifan Morgan Jones i fynd amdani’n syth, meddai.

Ar ei flog, mae Ifan Morgan Jones yn dweud bod cyhoeddiad Theresa May wedi “newid popeth” ac mai ei fwriad yw lawnsio rhywbeth – yn yn oed os ydyw’r wefan honno’n wahanol iawn i’r Nation.cymru yr oedd wedi’i bwriadu’n wreiddiol – yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Y llynedd (adeg y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd), fe ddaeth hi’n glir fod angen gwefan genedlaethol ar Gymru trwy gyfrwng yr iaith Saesneg,” meddai Ifan Morgan Jones. “Beth bynnag fyddai effaith Brexit ar y Deyrnas Unedig, doedd yna bron dim trafodaeth ar yr effaith ar Gymru, fel ag yr oedd yna yn yr Alban.

“Mae’n bwysig iawn nad ydi Cymru yn cerdded yn ddall i mewn i bleidlais hanesyddol arall ar ei dyfodol,” meddai Ifan Morgan Jones. “Fe all Nation.cymru fod yn llwyfan lle mae trafodaeth gall yn digwydd am yr opsiynau gorau i Gymru.”