Katrina Evemy (trwy law Heddlu Dyfed Powys)
Mae dyn 21 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio gwraig ifanc yn Llanelli.

Fe ymddangosodd Dylan Hywel Harries o flaen ynadon y dre’ heddiw yn sgil y digwyddiad yn Graig Avenue.

Mae’r ferch, Katrina Evemy, sy’n 19 oed, yn dal i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol – yn ôl Heddlu Dyfed Powys mae ei chyflwr yn ddwys iawn.

Fe gafodd ei chymryd i’r ysbyty ar ôl y digwyddiad mewn tŷ yn y stryd ar stad heb fod ymhell o ganol y dre’.

Fe fu’r stryd ynghau am gyfnod fore Gwener ac mae tîm plismona cymunedol wedi bod yn rhoi cymorth i drigolion lleol.