Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i ymosodiad difrifol yn Llanelli nos Iau.

Mae dynes 19 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ac mae dyn 21 oed yn cael ei holi yn y ddalfa o hyd ar ôl i’r heddlu gael estyniad i’w gadw yn y ddalfa.

Mae Rhodfa’r Graig ar agor unwaith eto’n dilyn y digwyddiad.

Ond mae’r heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliad mewn eiddo ar y stryd, ac yn cynnig cefnogaeth i’r gymuned leol.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.