Terry Jones (Llun: PA)
Mae Terry Jones, sy’n fwyaf adnabyddus am ei ran yn y gyfres Monty Python ac sy’n enedigol o Fae Colwyn, yn dal i fwynhau bywyd er ei fod e’n dioddef o ddementia, yn ôl ei ffrind a’i gyd-actor Michael Palin.

Mae’r actor a chyd-gyfarwyddwr y gyfres gomedi yn dioddef o fath o ddementia sy’n effeithio ar ei allu i gyfathrebu.

Roedd e’n bennaf gyfrifol am sgriptiau’r gyfres.

Dywedodd Michael Palin fod y ffordd y mae Terry Jones yn ymdopi â’r salwch wedi creu argraff arno fe.

Ymateb i’w ddiagnosis

Dywedodd wrth y papur newydd The Observer: “Y peth wnaeth fy nharo i oedd sut y gwnaeth Terry ymateb i’w ddiagnosis.

“Fe fyddai’n stopio pobol yn y stryd ac yn dweud wrthyn nhw: ‘Mae dementia arna’i, chi’n gwybod. Mae fy llabed flaen wedi dianc’.

“Roedd e’n gwybod beth oedd yn effeithio arno fe ac roedd e am rannu’r wybodaeth honno – oherwydd dyna sut un yw Terry.”

Dim swildod

“Efallai bod FTD yn achosi i swildod gael ei golli, ond doedd Terry byth yn swil iawn yn y lle cyntaf!”

Eglurodd ei fod yn dal i fwynhau mynd am dro ar Hampstead Heath a’i fod yn “anodd dal i fyny gyda fe”.

“Mae e’n dal i fwynhau ei gwrw, ei win, ei dro, ei ffilmiau a jôc dda.”