Arthur Ray Taylor (Llun: PA)
Mae Gwylwyr y Glannau’n chwilio am ddyn 90 oed sydd ar goll ar y môr ers neithiwr.

Cawson nhw eu galw am 5.15pm ar ôl i’r dyn fethu â dychwelyd.

Cafwyd hyd i gwch Arthur Ray Taylor yn Aberteifi.

Fe fu timau hofrenyddion o Gaernarfon, Aberteifi, Gwbert a Moylegrove allan yn chwilio amdano, ynghyd â Gwylwyr y Glannau o Aberteifi a Hwlffordd a Heddlu Dyfed-Powys.

Maen nhw’n parhau i chwilio amdano y bore ma.