Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ôl i yrrwr car gael ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng VW Polo a Mini ar yr A472 rhwng Tredomen a Nelson toc ar ôl 12 o’r gloch neithiwr.

Cafodd gyrrwr un o’r ceir ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.