(llun o wefan yr heddlu)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth am ymosodiad a ddigwyddodd yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen nos Fercher.

Fe wnaeth dyn ddioddef anafiadau i’w ben a’i gorff wrth i ddieithryn ymosod arno ger drws ei dŷ rhwng 9.15pm a 9.40pm.

Wrth iddo ymladd yn ôl mae’n bosibl ei fod wedi anafu’r dyn a ymosododd arno, yn ôl yr heddlu.

“Yn ystod y digwyddiad, credwn fod yr ymosodwr wedi dioddef anafiadau i’w lygad dde ac anaf ar ochr chwith ei ben,” meddai’r Ditectif Arolygydd Iwan Roberts.

“Rydym yn gofyn i dystion ddod ymlaen os gwelson nhw rhywun ag anafiadau o’r fath.

“Dw i’n falch o ddweud bod dioddefwr yr ymosodiad wedi dod adref o’r ysbyty ac yn gwella’n dda.”

Gall unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi cyfeirnod V051719.