Porthladd Caergybi (llun: Golwg369)
Mae porthladdoedd yng Nghymru wedi cael eu gwahodd i geisio am werth £2 miliwn o grantiau.
Bydd modd i unrhyw borthladd yng Nghymru ddanfon cais am grant o Gronfa Datblygu Porthladdoedd Llywodraeth Cymru, a bydd dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar Fehefin 9.
Nod y gronfa yw cefnogi twf porthladdoedd yng Nghymru a darparu cyfleoedd gwaith newydd yn y diwydiant.
Mae tua £1.4 miliwn o’r gronfa ar gyfer prosiectau refeniw a £0.6 miliwn ar gyfer prosiectau cyfalaf.
“Ysgogi economi ffyniannus”
“Rydym eisiau gweld ein porthladdoedd yn parhau i gyfrannu ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol gan helpu i ysgogi economi fwy ffyniannus ac unedig i Gymru,” Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.
“Rwy wrth fy modd yn cael cyhoeddi’r gronfa newydd. Bydd ein porthladdoedd nawr yn cael cyflwyno cynigion ar gyfer y ffordd orau o ddefnyddio arian cyhoeddus i gyflawni’r amcanion hyn.”