Cyrch 'caethweision' gan Heddlu De Cymru (Llun o fideo gan y llu)
Mae nifer yr achosion o bobol yn cael eu cadw’n gaeth a’u gorfodi i weithio ar gynnydd yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r Asiantaeth Drosedd Genedlaethol wedi cyhoeddi bod y nifer o oedolion gafodd eu cyfeirio at yr awdurdodau ynglŷn â phryderon am gaethwasanaeth ddomestig, wedi dyblu rhwng 2015 a 2016.

Y llynedd, fe gafodd 21 oedolyn yng Nghymru eu cyfeirio at yr awdurdodau oherwydd pryderon am gaethwasanaeth domestig, sydd yn gynnydd o 90.9% o gymharu â 2015.

Dim ond yn Lloegr y cafodd ffigur uwch ei gofnodi (293 o oedolion), gyda niferoedd is yn yr Alban (9) a Gogledd Iwerddon (3).

Bu cynnydd rhwng 2015 a 2016, yn y nifer o achosion o gaethwasanaeth ddomestig ymysg plant a chymryd mantais o lafur plant yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu mai Cymru oedd yr unig wlad o fewn y Deyrnas Unedig lle cafodd unigolyn ei gyfeirio at yr awdurdodau oherwydd pryderon am ddwyn organau – organ harvesting.